TESTO DEL LIED

"Dafydd y Garreg Wen"
di John Ceinog Hughes (1832-87)

"Cariwch", medd Dafydd, "Fy nhelyn imi, Ceisiaf cyn marw roi tôn arni hi Codwch fy nwylo i gyrraedd y tant; Duw a'ch bendithio, fy ngweddw a'm plant.
Llifai'r alawon o'r tannau yn lli, Melys oedd ceinciau fy nhelyn i mi. Nid oes a erys o'r afiaith a'r tân; Gwywodd yr awen, a thawodd y gân.
Neithiwr mi glywais lais angel fel hyn:
-- Dafydd, tyrd adref, a channa trwy'r glyn. -- Delyn fy mebyd! ffarwel i dy dant. Duw a'ch bendithio, fy ngweddw a'm plant."